|
|
|
|
Gŵyl Flodau a Cherddoriaeth Eglwys Sant Sannan Mae'r wyl wedi bod yn llwyddiant ysgubol! Pan glywodd pentrefwyr Llansannan yn ddiweddar fod rhaid iddynt ddod o hyd i arian i wneud gwaith atgyweirio ar frys i'r eglwys neu gwynebu y posibliadau y byddai'n gorfod cau, daethant at ei gilydd a threfnu eu Gwyl Flodau a Cherddoriaeth gyntaf erioed. Nid aelodau'r eglwys yn unig ond hefyd o'r capeli Baptist a Methodistiaeth, Sefydliad y Merched, Merched y Wawr a mudiadau lleol eraill a addurnwyd yr eglwys ar themau cerddoriaeth a hefyd llenwi'r adeilad a sain a phersawr tros ben wythnos Gwyl y Banc. Cynhaliwyd pedair noson o gyngherddau ac yn ystod y dydd 'roedd sain yr organ i'w glywed trwy'r adeilad a thu draw yn y fynwent a oedd yn dwt a thaclus. 'Roedd pawb yn 'sgwyddo'r faich a'r pentref i gyd yn dangos balchder fel 'roedd y coffrau'n dechrau llenwi a chodwyd tros £4000.00 tros y penwythnos. Hefyd cafwyd y teimlad fod pawb yn cyfranu at gadwedigaeth adeilad gwych yng nghanol y pentref er ffyniant.
'Roedd y trefnwyr, Richard a Rosemary Smyth yn hapus fod popeth wedi troi allan mor dda. "Roeddem yn ansicr pan benderfynon gynllunio'r digwyddiad a fuasai'n gweithio o gwbl" meddai Richard sydd gyda'i wraig, Rosemary wedi dod i fyw'n y pentref yn barhaol tua tair mlynnedd yn ol. Ond meddai " Mae Rosemary'n rhan o gymant o fudiadau'r pentref a gallodd ddarbwyllo pawb i gymeryd rhan."
Medrodd Richard, sy wedi rhedeg cyrsiau cerddoriaeth i blant am y deg mlynnedd diwethaf, alw ar amryw o gerddorwyr proffesiynol i roi gwasanaethau am ddim er helpu'r gymuned. Addawodd yr organyddion, yr arweinydd, Cor Meibion Bro Aled, unawdwyr a'r offerynwyr i'r Messeiah roi ei hamser amm ddim, a hefyd Eira Lynn Jones pwy a gynhaliodd ddosbarth meistriolii delynyddion ieuanc yn ystod y p'nawn cyntaf ac wedyn rhoi cyngerdd bendigedig yn yr hwyr. I ddyfynu Rex Mathias, Ficer y pentref, "Gallaf ddim diolch digon i bawb a helpodd gyda'r digwyddiad trwy roi oi hamser ai arbenigedd mor hael er gwneud i bethau fynd mor esmwyth. gallwn rwan edrych ymlaen at ddyfodol ein eglwys gyda hyder"
A fydd hyn yn gychwyn ar Wyl reolaidd? "Ar hyn gallwn ni ddim hyd yn oed ystyried ei wneud i gyd eto" meddai Rosemary a arolygodd yr holl flodau a'r arlywio. "ond pwy a wyr syt y byddwn yn teimlo wedi ychydig o orffwys!" St.Sannan's Festival of
Music and Flowers
Left to right, Sara Jones,
wife of David Jones MP who opened the Festival on Friday Morning, Richard and
Rosemary Smyth and Rex Mathias, Vicar of Llansannan
Llansannan tua 1950 Llansannan circa 1950 Mynyddoedd Eryri gyda gorchydd o eira yn ystod Mawrth 2008 Snowdonia range with a covering of snow during March 2008
Wedi neidio efo parachute i godi arian i Ward Plant Ysbyty Glan Clwyd. Bydd £1000 wedi ei gasglu yn y diwedd. Gethin, Josh, Meurig, Melfyn a Caryl. Da iawn chi! / Well done! A sponsored parachute jump in aid of the Children's Ward at Ysbyty Glan Clwyd will have raised £1000 when all the money is collected
Mr & Mrs W Jones, Encil, Llansannan sydd wedi dathlu 70 mlynedd o fywyd priodasol ar y 31ain o Fis Hydref 06 Mr & Mrs W Jones, Encil, Llansannan who have celebrated 70 years of marriage on 31st October 06 |
|
|